Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (67) |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13:30.
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Atebwyd cwestiwn 10 gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 14:19.
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Dechreuodd yr eitem am 14:25.
Gofynnwyd y cwestiwn. Atebwyd cwestiwn 1 gan Peter Black.
4. Cynnig i ethol Aelod i’r Pwyllgor Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14:26.
NDM4994 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Datganiad gan y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 14:26.
6. Dadl ar Araith y Frenhines
Dechreuodd yr eitem am 15:27.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith nad yw’r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys unrhyw fesurau ystyrlon i gyflawni twf yn yr economi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
18 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Ynni a fydd yn diwygio’r farchnad drydan er mwyn annog buddsoddiad mewn cynhyrchu carbon-isel ac ynni glân.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
10 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Rhoddion Bach a fydd yn galluogi elusennau bach i hawlio 25c yn ôl am bob £1 a roddir, hyd at £5,000.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Diwygio'r Banciau a fydd yn gwahanu gweithgareddau manwerthu’r banciau oddi wrth eu gweithgareddau buddsoddi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU a’i hymrwymiad parhaus i:
a) lleihau’r diffyg a thrwy hynny sicrhau’r cyfraddau llog isaf erioed yn y Deyrnas Unedig, sydd o fudd i berchnogion tai ledled Cymru;
b) adfer sefydlogrwydd economaidd, gan greu cyfoeth i gynnal gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
38 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu Bil Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd a chreu swydd Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4992 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 2012/2013.
Yn gresynu wrth y ffaith nad yw’r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys unrhyw fesurau ystyrlon i gyflawni twf yn yr economi.
Yn croesawu’r Bil Ynni a fydd yn diwygio’r farchnad drydan er mwyn annog buddsoddiad mewn cynhyrchu carbon-isel ac ynni glân.
Yn croesawu’r Bil Rhoddion Bach a fydd yn galluogi elusennau bach i hawlio 25c yn ôl am bob £1 a roddir, hyd at £5,000.
Yn croesawu’r Bil Diwygio'r Banciau a fydd yn gwahanu gweithgareddau manwerthu’r banciau oddi wrth eu gweithgareddau buddsoddi.
Yn croesawu Bil Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd a chreu swydd Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
5 |
13 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17:36.
7. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:39.
NDM4993 Mick Antoniw (Pontypridd)
Plant sy’n Ceisio Lloches a sut y cânt eu hamddiffyn yng Nghymru
Mae Llywodraeth y DU yn llesteirio gallu Llywodraeth Cymru o ran plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru. Mae diogelu plant yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ond mae’r graddau y mae Llywodraeth y DU wedi dehongli ei chymhwysedd a gadwyd ar fewnfudo, sef trin unrhyw fater sy’n ymwneud â cheiswyr lloches, plant sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid fel mater a gadwyd yn ôl, yn cynnwys y meysydd hynny sy’n gymwyseddau a ddatganolwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynd yn groes, mewn sawl achos, i amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer dinasyddion Cymru: o ran hawliau plant, cydraddoldeb a gweithio tuag at gymdeithas deg a chynhwysol.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:04
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mawrth, 29 Mai 2012